Home

Priodasau

This page is also available in: English

Os am gyffwrdd â’r uchelfannau cerddorol ar eich diwrnod arbennig, yna gall Trio Canig lenwi’r gofynion i’r dim. Gyda thros ugain mlynedd o hyfforddiant gan arbenigwyr lleisiol  enwog fel Colin Jones a John Daniel mae gan y Triawd brofiad helaeth o ganu led-led Ewrop a thu hwnt. Bu’r tri yn diddanu mewn digwyddiadau preifat a chyhoeddus yn Los Angeles, Rhufain a Brenhiniaeth Saudi Arabia yn ogystal ag mewn achlysuron yn nes adref.

Byddai Canig yn diddanu eich gwahoddedigion wrth iddynt gyrraedd, yna tra byddech yn arwyddo’r cofrestr ac wrth i’r ddeuddyn hapus ymadael. Y chi piau’r dewis. Fe fyddem wrth gwrs, fel rhan o’r diwrnod mawr, yn cymryd rhan mewn unrhyw ganu cynulleidfaol.

Gan ein bod yn sylweddoli pa mor bwysig fydd eich diwrnod mawr hoffem gyfrannu at y perffeithrwydd trwy helpu i ddewis y caneuon gorau ar gyfer yr achlysur. Gallwn ganu mewn llawer iaith, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Siapanaeg, Sbaeneg ac Eidaleg . Nid yw iaith o unrhyw rwystr, cysylltwch â ni gyda’ch rhestr o eitemau cerddorol.

E-bostiwch ni rwan ar [email protected]

 

Wedding Singers