This page is also available in: English
Cliciwch yma i ddarllen am eu llwyddiant YouTube, “Oh Danny Boy”.
Triawd Cymraeg, clasurol a chyfoes yw Trio Canig, yn arbenigo mewn gwasanaethau priodas ac mewn perfformio ar achlysuron corfforedig. Perfformiodd y triawd o Fôn yn Llundain, Manceinion, Los Angeles, Ffrainc, yr Eidal, Iwerddon, Canada a’r Unol Daleithiau ac fe barhânt i swyno cynulleidfaoedd gyda’u dawn lleisiol a’u harmoni unigryw. Mae’r tri, Merfyn, Dafydd a Geraint, yn canu yn Gymraeg, Saesneg, Eidaleg a Lladin a rhoesant ddatganiadau mewn Siapanaeg cyn hyn. Gall y Triawd ganu mewn llawer dull a modd hefyd,- Clasurol, Cymraeg, Traddodiadol neu Boblogaidd, ynghyd â deuawdau gyda’r piano.