Home

  • Trio Canig – Geraint, Dafydd & Merfyn

    Trio Canig – Geraint, Dafydd & Merfyn

Hafan

This page is also available in: English

CROESO

Triawd cerddgar a cherddorol yw Trio Canig, triawd ag ynddo’r ddau denor, Dafydd a Geraint, a’r bariton Merfyn,- tri chyfaill hoffus o harddwch Ynys Môn.
​Gan iddynt ganu gyda’i gilydd mewn corau ers tro byd fe ddaethant i sylweddoli fod eu lleisiau’n ymdoddi’n braf i gynhyrchu sain  gyfoethog a harmoni melys a phrofiadol. Erbyn hyn maent wedi sefydlu eu hunain fel cyfuniad sydd â galw mawr amdanynt ar hyd a lled y byd.
Teithiasant yn helaeth i berfformio mewn priodasau, digwyddiadau corfforedig a chyngherddau mewn mannau cyn belled â Rhufain, Los Angeles a Saudi Arabia. Ond maent lawn mor barod i’ch diddanu yn nes adref!
Gall Trio Canig greu awyrgylch unigryw ar gyfer eich achlysur arbennig, boed yn briodas, yn gyfarfyddiad corfforedig neu’n ginio. Mae eu repertoire helaeth yn cynnwys y clasurol adnabyddus, cerddi gwerin, baledi a chaneuon cyfoes.
Maent yn fwy na pharod i ddarparu caneuon newydd at eich dewis chi ac nid yw iaith o unrhyw rwystr.  Mae eu rhestr eisioes yn cynnwys Cymraeg, Saesneg, Eidaleg, Lladin, Sbaeneg a Siapanaeg.
Gyda chyfoeth o brofiad fe all Trio Canig wneud unrhyw ddigwyddiad yn  achlysur gwirioneddol gofiadwy i bawb.

 

Achlysur Nesaf :

Priodas Janet and Frank, Eglwys Sant St Benedict, Conwy
a Drinks Reception yng Ngwesty St George, Llandudno
Sadwrn, Hydref 18fed

Byddem hefyd yn cymeryd rhan yn Ffair Briodas
yng Ngwesty Bron Eifion, Cricieth ymhellach yn y mis

 

10700654_10154639791175585_9069094380563086845_o

Cliciwch yma i ebostio ni gyda’ch gofynion